Lleoliad:
Fideo gynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 18 Mawrth 2021
Amser:
13.30 -
16.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11156
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Mike Hedges AS (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AS Llyr Gruffydd AS Neil Hamilton AS Jenny Rathbone AS Jack Sargeant AS (yn lle Joyce Watson AS) |
Tystion: |
Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Gian Marco Currado, Llywodraeth Cymru Christianne Glossop, Y Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru Dean Medcraft, Llywodraeth Cymru Tim Render, Llywodraeth Cymru Christine Wheeler, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) Elfyn Henderson (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS. Dirprwyodd Jack Sargeant AS ar ei rhan.
2 Gwaith gwaddol: sesiwn graffu gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
3 Gwaith gwaddol: parhau â'r sesiwn graffu gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
3.1 Parhaodd y Pwyllgor i glywed tystiolaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
4 Papurau i'w nodi
4.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4.1 Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer Bil Amgylchedd y DU
4.2 Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch iechyd anifeiliaid ac atal afiechydon
4.3 Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynchylch Rheoliadau Esemptiadau Rhag Mesurau Rheoli Swyddogol mewn Safleoedd Rheoli Ffiniau (Diwygio) 2021
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Gwaith gwaddol: trafod y dystiolaeth a daeth i law o dan eitemau 2 a 3
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau craffu gyda’r Gweinidog, o dan eitemau 2 a 3.
7 Gwaith gwaddol: trafod adroddiad drafft y Pwyllgor
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, ac yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd arno.
8 Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu)
8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu), a chytunodd arno.